Dwynwen

St Dwynwen and St Dwynwen` s Day 25th January 

The Welsh Valentines Day

Dwynwen is the Welsh patron saint of friendship and love. A 5th Century saint, she was reputedly one of the prettiest of Brychan Brycheiniog’s 24 daughters!

She fell in love with a young man named Maelon Dafodrill, but her father had arranged for her to marry another. Maelon was so distressed that he attacked Dwynwen. She fled to the woods where she begged God to make her forget Maelon.

All three were met, and Dwynwen devoted the rest of her life to serve God. The remains of her Church can be seen at Llanddwyn in South West Anglesey. Near the church, overlooking the sea is a small well, known as St Dwynwen’s well. It has been a place of pilgrimage for lovers for many centuries.

SANTES DWYNWEN

Dwynwen yw nawddsant cyfeillgarwch a chariad Cymru. Yn sant o’r 5ed ganrif, yn ôl pob sôn, hi oedd yr harddaf o 24 merch y brenin Brychan Brycheiniog.

Syrthiodd mewn cariad gyda dyn ifanc o'r enw Maelon Dafodrill, ond roedd ei thad wedi trefnu iddi briodi un arall. Pan glywodd Maelon am hyn, mewn tymer angerddol, ymosododd ar Dwynwen. Dyma hi'n ffoi i'r goedwig lle ymbilodd ar Dduw i wneud iddi anghofio am Maelon.

Ar ôl iddi syrthio i gysgu cafodd ei ymweliad gan angel yn cario edlyn melys o anghofrwydd, ac un a fyddai'n troi Maelon i rew. Pan ddihunodd, gwelodd beth oedd wedi digwydd. Yna rhoddodd Duw dri dymuniad i Dwynwen. Dymunodd ddadmer Maelon, dymunodd bod Duw yn cwrdd â gobeithion a breuddwydion cariadon ac na fyddai hi fyth yn priodi.

Cafodd y tri eu bodloni, ac addunedodd Dwynwen weddill ei bywyd i wasanaethu Duw. Mae olion ei eglwys i'w gweld yn Llanddwyn yn ne orllewin Ynys Môn. Ger yr eglwys, yn edrych dros y môr, mae yna ffynnon, a elwir yn  Ffynnon Santes Dwynwen. Mae wedi bod yn gyrchfan i bererinion cariadus ers canrifoedd lawer.

Heddiw, yng Nghymru rydym yn dathlu Gŵyl Santes Dwynwen mewn ffyrdd tebyg i ddydd San Ffolant, gyda chariadon yn cyfnewid anrhegion ac yn mwynhau swperi rhamantus.


Did this answer your question? Thanks for the feedback - Diolch am yr adborth There was a problem submitting your feedback. Please try again later.

Still need help? - Dal angen help? Contact Us - Cysylltwch â Ni Contact Us - Cysylltwch â Ni